Y Geiriadur Celf
Y Geiriadur Celf
Methu â llwytho argaeledd casglu
Wrth astudio Celf a Dylunio ar gyfer Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch bydd y myfyriwr angen dod o hyd i ystyr geiriau arbenigol a darganfod mwy am fudiadau celf. Mae’r Geiriadur Celf wedi ei lunio’n unswydd ar gyfer ateb y gofyn hwn. Mae’n cynnwys esboniadau clir a chynhwysfawr ar gyfer cofnodion sy’n allweddol ar gyfer myfyrwyr Celf a Dylunio yng Nghymru, enghreifftiau o waith a all ysbrydoli ymchwil pellach, ynghyd â chyfeiriadau at gofnodion eraill yn y llyfr. Gall y Geiriadur arwain y myfriwr at ddeunyddiau ac esbonio sut maen nhw’n gweithio; gall arwain y darllenydd drwy thema arbennig, ac arwain yr artist ifanc drwy’r elfennau ffurfiol sy’n bwysig ar gyfer creu gwaith celf.
Trefnwyd cynnwys a chofnodion y Geiriadur yn ôl trefn yr wyddor er mwyn helpu’r darllenydd i ddod o hyd i wybodaeth yn rhwydd a sydyn. Mae’r Geiriadur hefyd yn cynnwys termau yn Gymraeg a Saesneg, rhestr eirfa a llyfryddiaeth er mwyn hwyluso’i ddefnydd gan fyfyrwyr sy’n gwbl sicr eu Gymraeg, neu fyfyrwyr sydd dim mor rhugl.
Seiliwyd y Geiriadur Celf ar Art & Design: The Essential Word Dictionary gan yr athro a’r arholwr Mark White, ac a gyhoeddwyd gan Philip Allen. Comisiynwyd y fersiwn Gymraeg gan Lywodraeth Cymru a’i gyhoeddi dan nawdd Cynllun Adnoddau Addysgu a Dysgu CBAC. Golygwyd y fersiwn Gymraeg gan Dafydd Jones sy’n darlithio mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ac sydd wedi bod yn gyfrifol am nifer o lyfrau ac erthyglau ysgolheigaidd yn y maes.
Er mwyn gwneud y Geiriadur Celf yn gwbl berthnasol ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru ychwanegwyd nifer fawr o enghreifftiau o waith celf gan artisiaid o Gymru, gweithiau sydd i’w gweld yng Nghymru, ynghyd â mudiadau celf neu ddulliau sydd â’u gwreiddiau yng Nghymru neu sydd â chysylltiad uniongyrchol â’r wlad.
Gyda chyfeiriadau hwylus, esboniadau clir a chyngor arholwr, y Geiriadur Celf yw’r cyfeiriadur perffaith ar gyfer unrhyw un sy’n newydd i’r pwnc, sydd eisoes ar ganol cwrs, neu sy’n adolygu ar gyfer arholiad.
ISBN 978-1-906587-10-9 Gan Mark White
Addasiad Dr Dafydd Jones Cyhoeddwyd 2011
164 tudalen, clawr meddal 154mm x 232mm
Comisiynwyd gan Lywodraeth Cymru,
dan nawdd Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru
![Y Geiriadur Celf](http://dalen.ie/cdn/shop/files/clawrgeiriadurcelf.jpg?v=1718142748&width=1445)