Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Asterix a Cleopatra

Asterix a Cleopatra

Pris rheolaidd £6.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £6.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Taxes included.

Mae angen i’r Frenhines Cleopatra brofi wrth Iŵl Cesar fod hen ysblander yr Aifft yn fyw ac yn iach. Felly mae’n gorchymyn i’w phensaer, Todanjeris, i adeiladu palas gwych i Gesar — mewn cwta dri mis! Bydd dod â’r maen i’r wal yn amhosib i Todanjeris ar ei ben ei hun, ond mae help wrth law gan ei hen gyfaill, y derwydd Gwyddoniadix a’i gyd-Galiaid, Asterix ac Obelix. Gyda gelynion ar bob cwr, mae ein harwyr yn teithio i’r Aifft… Ac yno mae trwyn bach del Cleopatra yn gadael ei ôl arnyn nhw — a hwythau’n gadael eu hôl ar y pyramidiau a’r Sffincs!

ISBN 978-1-906587-74-1     Gan René Goscinny ac Albert Uderzo     Addasiad Alun Ceri Jones
Cyhoeddwyd yn 2018     48 tudalen, clawr meddal, 218mm x 287mm
Cyhoeddwyd gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru     © Hachette Livre    asterix.com
Gweld y manylion llawn