1
/
o
1
Asterix a’r Pair Pres
Asterix a’r Pair Pres
Pris rheolaidd
£6.99 GBP
Pris rheolaidd
Pris gwerthu
£6.99 GBP
Pris uned
/
per
Taxes included.
Methu â llwytho argaeledd casglu
Gan fod casglwr trethi Rhufain yn y fro, mae Dicsiondafix – sy’n bennaeth ar bentre cyfagos – yn gofyn am help Pwyllpendefix i guddio pair sy’n llawn o bres ei bobol. Ond yn ystod y nos, mae’r pair a’r pres yn diflannu — a gan taw Asterix oedd yn gyfrifol am warchod y pair, fe sydd ar fai am y golled ac yn gyfrifol am dalu’r arian yn ôl. Does gan Asterix ddim pen am arian o gwbwl, ond mae’n deall natur ddynol yn iawn. Trwy ddilyn ei drwyn mae e’n cael hyd i’r ateb i’w drafferthion, a darganfod pwy sy’n fwy na pharod i droi ei gefn ar ei gydwladwyr er mwyn plesio’r gormeswr.
ISBN 978-1-906587-33-8 Gan Goscinny ac Uderzo Addasiad Alun Ceri Jones
Cyhoeddwyd yn 2013 48 tudalen, clawr meddal, 218mm x 287mm
Cyhoeddwyd gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru © Hachette Livre asterix.com
