Asterix a’r Snichyn
Asterix a’r Snichyn
Pris rheolaidd
£6.99 GBP
Pris rheolaidd
Pris gwerthu
£6.99 GBP
Pris uned
/
per
Gan fod pentre’r Galiaid yn ddraenen barhaus yn ystlys Iŵl Cesar, mae e’n troi at hen snichyn bach dan din o’r enw Bactreius Drwgynycaus i’w helpu. Mae Drwgynycaus yn gamstar ar gorddi’r dyfroedd, a bwriad Ceasr yw ei ddefnyddio i ddifetha bywyd cytûn y Galiaid. Mae Drwgynycaus yn gwneud jobyn da ohoni, ac wrth i'r Galiaid droi ar ei gilydd mae Asterix, Obelix a’r derwydd Gwyddoniadix yn troi eu cefn ar y pentre — ac yn ymadael heb adael diferyn o’r ddiod hud ar ôl. A dyma pryd mae’r Rhufeiniaid yn gweld eu cyfle i ymosod…