Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Asterix yn y Gemau Olympaidd

Asterix yn y Gemau Olympaidd

Pris rheolaidd £6.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £6.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Taxes included.

Mae pawb o bentre Asterix yn troi am wlad Groeg i chwilio am glod a bri yn y Gemau Olympaidd. Gyda’r ddiod hud i roi hwb i’w nerth, mae’r Galiaid yn sicr o ennill llu o balmwydd aur. Ond pan ddaw sôn am y ddiod hud i glust swyddogion y Gemau, mae’r gwynt yn cael ei dynnu o hwyliau’r Galiaid — does gan y cystadleuwyr ddim hawl i ddefnyddio cyffuriau i wella’u perffomiad. Pwy felly fydd yn cyrraedd y brig yn y Gemau? Mae angen i Asterix a’i ffrindiau fod yn gyfrwys i sicrhau nad yw’r Rhufeiniaid yn twyllo, ac mae gan y derwydd Gwyddoniadix rysáit i wneud yn siŵr o hynny.

ISBN 978-1-906587-27-7     Gan Goscinny ac Uderzo     Addasiad Alun Ceri Jones
Cyhoeddwyd yn 2012     48 tudalen, clawr meddal, 218mm x 287mm
Cyhoeddwyd gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru     © Hachette Livre    asterix.com
Gweld y manylion llawn