Awyren 714 i Sydney
Awyren 714 i Sydney
Pris rheolaidd
£6.99 GBP
Pris rheolaidd
Pris gwerthu
£6.99 GBP
Pris uned
/
per
Ar eu ffordd i Sydney yn Awstralia, mae Tintin a’i gyfeillion yn derbyn gwahoddiad y miliwnydd surbwch, Laszlo Carreidas, i hedfan yn ei awyren breifat. Yn ystod y daith, mae’r awyren yn cael ei herwgipio a’i glanio ar un o ynysoedd diarffordd Indonesia. Yno mae hen elyn Tintin, Rastapopolos, yn disgwyl amdanynt, ac yntau’n hyderus o allu dwyn perswâd ar Carreidas i ryddhau manylion ei gyfrif banc yn y Swistir. Ond llwydda Tintin a’i griw i ddianc gan ddod o hyd i loches mewn hen deml danddaearol sy’n gartref anghysbell i ymwelwyr annisgwyl iawn.