Cyfaredd Caer Is
Cyfaredd Caer Is
Pris rheolaidd
£9.99 GBP
Pris rheolaidd
Pris gwerthu
£9.99 GBP
Pris uned
/
per
Mae Gwynlan a Taran, ynghyd â’r mynach Budog, yn troi am ddinas chwedlonol Caer Is – dinas a godwyd ger y môr lle teyrnasa’r dywysoges Dahud, merch y brenin Gralon. Er bod Dahud dal yn driw i hen grefydd y Celtiaid, mae’n ddigon parod i groesawu mynachod yr Eglwys Geltaidd newydd i’w dinas, ac i’w temtio â phleserau mewn neuaddau llawn oferedd a chynteddau o nwyd. Er hynny, mae llawer mwy i’w chyfaredd na’r chwantau amlwg, a hithau’n styfnig i’r carn wrth wrthod unrhyw ddarpar ŵr i’w phriodi. Ond pan ddaw’r pendefig diweddara i geisio’i llaw, daw hefyd dystiolaeth newydd i gynorthwyo ymchwil Gwynlan i lofruddiaethau’r mynachod.