1
/
o
1
Cylch Y Cedyrn
Cylch Y Cedyrn
Pris rheolaidd
£9.99 GBP
Pris rheolaidd
Pris gwerthu
£9.99 GBP
Pris uned
/
per
Taxes included.
Methu â llwytho argaeledd casglu
Mae dau o Drysorau’r Brythoniaid, y Pair Dadeni a Gwayw Lleu, yn allweddol i ymgais Eglwys Rufain i ddisodli hen ffydd y Brythoniaid. Gyda chymorth y bardd Myrddin caiff Gwynlan ei arwain harwain ar hyd trywydd diogel i Gôr y Cewri – y meini hynafol sy’n gwarchod rhan o’r gyfrinach y mae Gwynlan yn chwilio amdani. Yno caiff ddatguddiad pwysig sy’n sbarduno’r ymchwil ymhellach. Wrth chwilio am loches ar eu taith, daw’r teithwyr wyneb yn wyneb â bygythiad hudolus ond angheuol sy’n rhoi bywyd Taran yn y fantol. Un man yn unig all roi achubiaeth i’r llanc, ac mae eu hynt yn dwyn y teithwyr i fynachlog Deiniol ar lannau’r culfor sy’n rhannu'r tir mawr o ynys sanctaidd y Derwyddon — Môn.
ISBN 978-1-906587-20-8 Gan Istin, Jigourel a Lamontagne Addasiad Alun Ceri Jones
Cyhoeddwyd 2010 48 tudalen, clawr meddal 230mm x 320mm
Cyhoeddwyd gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru
