Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Dirgelwch Yr Orgam

Dirgelwch Yr Orgam

Pris rheolaidd £9.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £9.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Taxes included.

Cyfrol gynta cyfres gothig iasoer wedi ei gosod yn Oes y Seintiau yn y 5ed ganrif, gyda sefydlu gwladfa Frythoneg newydd Llydaw. Ymhlith y gwladychwyr mae arweinwyr ysbrydol yr Eglwys Geltaidd – y mynachod – a’r grefydd newydd yn darogan tranc hen ffydd y derwyddon. Ond erys yr hen draddodiadau yn ddiysgog yn erbyn y newydd, a gyda hynny mae Gwynlan, Derwydd ola Llydaw, a’i ddisgybl Taran, yn cael eu hunain yng nghanol ymgiprys milain yn erbyn mynachod yr Eglwys. Daw cyhuddiadau o lofrudiaeth, aberth dynol a dewiniaeth o bob cwr, ond mae’r hen dduwiau wrth law i gynorthwyo’r cyfiawn.

ISBN 978-0-9551366-3-4     Gan Istin, Jigourel a Lamontagne      Addasiad Alun Ceri Jones
Cyhoeddwyd 2006     48 tudalen, clawr caled  230mm x 320mm
Cyhoeddwyd gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru
Gweld y manylion llawn