Llio! Y Dyddiadur Bach
Llio! Y Dyddiadur Bach
Pris rheolaidd
£6.99 GBP
Pris rheolaidd
Pris gwerthu
£6.99 GBP
Pris uned
/
per
Merch ifanc hoffus yn ei harddegau yw Llio. Mae’n byw gyda’i mam mewn fflat yn y ddinas, ac mae’r ddwy yn ffrindiau mawr. Ond mae ei mam â’i phen yn y cyfrifiadur drwy’r amser, neu’n chwarae gêmau fideo byth a hefyd, a byth yn cwrdd â neb o’r tu fâs. Pan ddaw cymydog newydd i fyw yn y fflat drws nesa, mae Llio yn bachu ar y cyfle i sicrhau bod gan ei mam ramant yn ei bywyd. A beth am Llio ei hun? Mae gyda hi ei llygaid ar fachgen ifanc hefyd... ond ych a fi! Mae e’n pigo’i drwyn!