Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Llwybr i’r Lleuad

Llwybr i’r Lleuad

Pris rheolaidd £6.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £6.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Taxes included.

Ar alwad yr Athro Ephraim R. Efflwfia mae Tintin, Milyn a’r Capten Hadog yn mynd i Ganolfan Ymchwil Atomig Sprodzj yng ngwlad Syldafia. Yno, er mawr syndod a rhyfeddod iddyn nhw i gyd, mae’r Athro yn paratoi roced i deithio i’r Lleuad. Ond, yn anochel, mae grymoedd tywyll yn llechu yn y cysgodion gyda’r bwriad o ddwyn rheolaeth ar y roced. Heb wybod dim am am y peryglon sy’n eu hwynebu, mae Tintin a’i gyfeillion yn paratoi ar gyfer yr antur fawr – a thrwy ambell i dro trwstan a chwmni Parry-Williams a Williams-Parry, o’r diwedd mae’r roced yn codi i lonyddwch y nos.

ISBN 978-1-906587-18-5     Gan Hergé     Addasiad Dafydd Jones
Cyhoeddwyd yn 2010     64 tudalen, clawr meddal, 215mm x 295mm
Cyhoeddwyd gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru     © Hergé Moulinsart   tintin.com
Gweld y manylion llawn