Rhandir y Duwiau
Rhandir y Duwiau
Pris rheolaidd
£6.99 GBP
Pris rheolaidd
Pris gwerthu
£6.99 GBP
Pris uned
/
per
Mae gan Iŵl Cesar gynllun newydd i chwalu pentre trafferthus Asterix — mae e am rwygo calon y gymuned allan, a throi’r pentre bach yn lecyn ar gyfer tai haf. Ond mae Asterix a’i gyd-bentrefwyr yn barod i fynd i’r gad a sefyll yn y bwlch… nes i’r geiniog ddechrau siarad. Y nod yw cael y Galiaid i dderbyn y ffordd newydd Rufeinig grêt o fyw, a throi eu cefn ar eu traddodiadau hen ffasiwn. Cynllun cyfrwys iawn yw hwn gan Cesar, ac un sy’n agos iawn i lwyddo — nes bod Asterix a’i ffrindiau yn sylweddoli eu bod nhw ar fin cael eu boddi gan y mewnlifiad estron.
ISBN 978-1-906587-31-4 Gan Goscinny ac Uderzo Addasiad Alun Ceri Jones
Cyhoeddwyd yn 2012 48 tudalen, clawr meddal, 218mm x 287mm
Cyhoeddwyd gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru © Hachette Livre asterix.com