Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Tintin ar Grib Tibet

Tintin ar Grib Tibet

Pris rheolaidd £6.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £6.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Taxes included.

Daw’r newyddion trist fod Tsiang, ffrind Tintin, wedi cael ei ladd mewn damwain awyren ym mynyddoedd yr Himalaya. Ond yn dilyn breuddwyd ryfedd, mae Tintin yn sicr fod Tsiang yn dal yn fyw. Gyda’r Capten Hadog a Milyn yn gwmni iddo, mae Tintin yn teithio i’r mynyddoedd ac yn croesi’r criboedd uchel i gyrraedd Tibet. Ei nod yw ffeindio Tsiang doed a ddelo, ac mewn mynachlog ddiarffordd daw arwydd fod Tsiang yn wir yn fyw, a’i loches yw ogof bellennig. Ond dyw Tsiang ddim yno ar ei ben ei hun… mae rhywun — neu rywbeth — arall wedi dod o hyd iddo’n gynta!

ISBN 978-1-906587-83-3     Gan Hergé     Addasiad Dafydd Jones
Cyhoeddwyd yn 2017     64 tudalen, clawr meddal, 215mm x 295mm
Cyhoeddwyd gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru     © Hergé Moulinsart   tintin.com
Gweld y manylion llawn