Neidio i wybodaeth cynnyrch
1 o 1

Tintin yn America

Tintin yn America

Pris rheolaidd £6.99 GBP
Pris rheolaidd Pris gwerthu £6.99 GBP
Gwerthu Gwerthu allan
Taxes included.

Mae Tintin a Milyn ar drywydd stori am ddihirod Chicago, ond dyw’r mob ddim yn hapus o’i weld e ar eu patshyn nhw. Wrth drio dwyn y gang o flaen eu gwell, mae Tintin yn dilyn y pen-gangstar Llewelyn Humphreys — Y Camel, neu Murray the Hump i’w elynion — i’r Gorllewin Gwyllt. Ar y paith mae llwyth Indiaid y Mandan yn cymryd yn erbyn Tintin ac yn rhoi ei fywyd yn y fantol. Ond dyw Tintin fyth yn un i ildio, gan ddilyn Y Camel hyd yr eithaf er gwaetha dicter marwol y mob…

ISBN 978-1-913573-34-8     Gan Hergé     Addasiad Dafydd Jones
Cyhoeddwyd yn 2022     64 tudalen, clawr meddal, 215mm x 295mm
Cyhoeddwyd gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru     © Hergé Moulinsart   tintin.com
Gweld y manylion llawn