Treflan Dalton City
Treflan Dalton City
Pris rheolaidd
£6.99 GBP
Pris rheolaidd
Pris gwerthu
£6.99 GBP
Pris uned
/
per
Lewsyn Lwcus yw sheriff newydd Tre Fenter, treflan lle mae cyfraith a threfn ar chwâl. Ei orchwyl cyntaf yw cael gwared ar holl ddihirod y dre. Yn eu plith mae Clinton Fenter, y pen bandit, sy’n cael ei roi dan glo yn yr un carchar â haid o ddihirod trafferthus, y Brodyr Dalton. Mae’r cnafon Dalton yn dianc o’r jael, ac yn ail-sefydlu Tre Fenter fel eu treflan eu hunain. Ond gyda neb ond nhw yn drigolion yn y ddinas ddiflas, mae angen ail-boblogi’r lle. Dyma Lewsyn Lwcus yn cynnig syniad i'r brodyr – gwahodd holl ddihirod y Gorllewin Gwyllt i barti ysblennydd. Strategaeth gyfrwys dros ben…
ISBN 978-1-906587-03-1 Gan Morris a Goscinny Addasiad Dafydd Jones
Cyhoeddwyd yn 2009 48 tudalen, clawr meddal, 220mm x 290mm Cyhoeddwyd gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru
© Lucky Comics lucky-luke.com