Y Bad Rachub
Y Bad Rachub
Pris rheolaidd
£6.99 GBP
Pris rheolaidd
Pris gwerthu
£6.99 GBP
Pris uned
/
per
Pan mae Tintin yn clywed bod Emir Ben Kalish wedi cael ei ddiorseddu yng ngwlad Khemed, mae’r gohebydd pengoch yn mynd yno ar ei union er mwyn helpu ei hen gyfaill. Ond yn llechu yn y cysgodion mae’r dihiryn rhyngwladol sy’n masnachu mewn caethweision, y Marquis de Gongfermour bondigrybwyll. Mae e’n gymaint o gnaf fel y gwnaiff e bopeth er mwyn gwarchod ei fuddiannau dichellgar. Er bod Tintin, Milyn a’r Capten Hadog yn llwyddo i ddianc o beryglon yr anialwch, mae ’na beryglon gwaeth yn eu hwynebu ar fwrdd y llong Rachub sy’n hwylio dyfroedd y Môr Coch.