• Llyfrwerthwyr

    Llyfrwerthwyr yng Nghymru

    Dylai Llyfrwerthwyr yng Nghymru drefnu derbyn stoc trwy ein
    dosbarthwyr, Cyngor Llyfrau Cymru (Y Ganolfan Ddosbarthu: 01970 624455). Gall Dalen ar adegau drefnu cyflenwi stoc ar anfoneb y Cyngor Llyfrau.

     

     

    Cludiant

    Am ddim ar gyfer archebion ym Mhrydain dros £100 net, ac
    eithrio ar gyfer archebion ym Mhrydain i ardaloedd anghysbell lle codir cost cludiant ychwanegol. Yn yr achosion hyn ar gyfer archebion dros £100 net, codwn arnoch y gost sy'n ychwanegol at y cost cludiant arferol.

     

    Codir cost cludiant ar wahân ar gyfer archebion o'r tu allan
    i Brydain, ac eithrio i rai archebion o Weriniaeth Iwerddon lle byddwn yn rhoi egwyddorion costau cludiant Prydain ar waith.

     

     

    Archebion Pendant a Gwerthu neu Ddychwelyd

    Byddwn yn trin pob archeb fel archeb bendant ac yn anfonebu
    am werth yr archeb hwnnw, ynghyd ag unrhyw gost cludiant, llai disgownt.

     

    Rydym yn fodlon ystyried trefniant gwerthu neu ddychwelyd ar
    gyfer archebion dros £75 net. Rhaid cadw stoc ar werth am o leiaf 3 mis, a rhaid dychwelyd unrhyw stoc sy'n weddill o fewn 6 mis o ddyddiad yr anfoneb gwreiddiol.

     

    Rhaid i unrhyw lyfr a ddychwelir fod mewn cyflwr dilychwin
    i’w gwerthu unwaith yn rhagor, a'u dychwelyd ar gost y llyfrwerthwr. Rhaid awdurdodi unrhyw ddychweliadau o flaen llaw gan Reolwr Gwerthiant Dalen ar 01239 811442, a'u dychwelyd o fewn 21 diwrnod i'r cyfeiriad a roddir gan Dalen.

     

     

    Deunydd wedi ei ddifrodi neu ei anfon yn wallus

    Rhaid hawlio am unrhyw ddeunydd a anfonir atoch gan Dalen
    sy'n wallus, yn brin neu wedi ei ddifrodi o fewn 14 i ddyddiad yr anfoneb. Dylid dyfynnu rhif yr anfoneb wrth gysylltu â ni. Rhaid cael awdurdod Dalen cyn dychwelyd unrhyw ddeunydd, a chyflwynir nodyn credyd neu gopïau newydd yn lle'r llyfrau gwallus neu ddirfodedig. Bydd Dalen yn talu cost dychwelyd llyfrau difrodedig neu wallus.

     

     

    Termau talu

    Anfonebir am y cyfanswm llawn, llai y disgownt, gyda’r archeb neu'n fuan wedyn drwy ebost. Rhaid talu am gyfanswm yr archeb o fewn 30 diwrnod ar gyfer y cyflenwad cyfan a ddarperir. Eiddo Dalen fydd pob stoc hyd oni thelir amdano yn llawn. Ar gyfer unrhyw ddeunydd a ddylchwelir mewn cyflwr dilychwin, anfonir nodyn credyd neu ad-daliad llawn i’r llyfrwerthwr, yn unol â’r trefniant ymlaen llaw gyda Dalen. Ni fydd credyd neu ad-daliad yn cael ei roi ar gyfer unrhyw lyfrau a ddychwelir mewn cyflwr sy’n golygu nad ydynt yn addas i’w gwerthu eto.

     

     

    Gostyngiadau

    Rhoddir gostyngiad o 33% i lyfrwerthwyr oni gytunir yn wahanol o flaen llaw.

  • Book Trade

    Booksellers in Wales

    Booksellers in Wales should arrange their consignments via
    our distributors, the Books Council of Wales (Distribution Centre: 01970 624455). On occasion, Dalen can arrange consignment stock which will be invoiced by the Books Council.

     

     

    Carriage

    Free for UK orders of £100 net or over, except for certain
    remote parts for which extra carriage costs are charged. In such cases, for orders over £100 net, we will charge that additional part of the carriage cost.

     

    Carriage charges will be raised for orders outside the UK,
    except for certain orders to the Republic of Ireland where UK charging principles will apply.

     

     

    Firm Sales and Sale or Return

    Each order will be considered as a Firm Sale, and will be invoiced as such, including any carriage cost, less discount.

     

    We are prepared to discuss Sale of Return arrangements for orders over £75 net. Stock must be kept on sale for a minimum of 3 months, and any residual stock must be returned within 6 months of the date on the original invoice.

     

    Any book returned must be in mint condition and fit for resale, and returned at the sender's cost. Any returns must be approved in advance by the Sales Manager at Dalen on 01239 811442, and returned within 21 days to the address given when approval is granted.

     

     

    Damaged or incorrectly supplied books

    Claims for wrongly supplied, short shipped or damaged books
    must be made within 14 days of the invoice date. The invoice number should be quoted when contacting us. Dalen's approval must be obtained in advance or returning any books. A credit note or replacement copies will be supplied in place of damaged or short shipped books. Dalen will cover the costs of short-shipped or damaged books.

     

     

    Terms of payment

    Books will be invoiced for with order, less discount. Invoice must be paid in full strictly within 30 days for the full consignment supplied. All books remain the property of Dalen until fully paid for. Booksellers returning any copies in mint condition and fit for resale will be issued with a credit note or reimbursment, as agreed with Dalen. Books returned which are not in a fit state to be resold with not be credited nor reimbursed.

     

     

    Discounts

    A 33% discount applies to all retailers unless otherwise
    agreed.